Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 – Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 15 Mai 2023
Amser:
14.00 -
16.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13339
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau o’r Senedd: |
Jack Sargeant AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Luke Fletcher AS Joel James AS Buffy Williams AS |
|
Tystion: |
Neil Kenward, Ofgem Chris O’Shea, Centrica Dhara Vyas, Energy UK Andrew Ward, Scottish Power Retail |
|
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Mared Llwyd (Ail Glerc) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon - y Pwyllgor Deisebau
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
2 Sesiwn dystiolaeth 1 - P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru
Holodd y Pwyllgor Neil Kenward o Ofgem am y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru.
3 Sesiwn dystiolaeth 2 - P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru
Holodd y Pwyllgor gynrychiolwyr o gwmnïau ynni am y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru.
4 Deisebau Newydd
4.1 P-06-1324 Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi siomi pobl Gogledd Cymru a dylid ei rannu'n unedau llai
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nodwyd nad oedd y Gweinidog o blaid gwahanu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cydnabu’r Pwyllgor y pryder ynghylch canlyniadau cleifion a nododd i’r mater hwn cael ei drafod yn helaeth yn y Cyfarfod Llawn ac yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a’r Pwyllgor Iechyd. Yn sgil hyn, penderfynwyd diolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.
4.2 P-06-1327 Cyfleusterau Canolfannau Hamdden am ddim i blant
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn am yr amcangyfrif gorau o gost darparu gwasanaethau canolfannau hamdden yn rhad ac am ddim i bobl ifanc. Penderfynodd y Pwyllgor drafod effaith y ddeiseb ar draws llawer o feysydd polisi megis iechyd a gweithgareddau i bobl ifanc.
4.3 P-06-1328 Dylid sicrhau bod yr holl weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael eu talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol newydd (£10.90) ar unwaith
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb. Gan fod y Llywodraeth yn gefnogol i’r syniad, a chan ei bod wedi buddsoddi i sicrhau cyflog byw gwirioneddol, penderfynodd y Pwyllgor longyfarch y deisebwyr a chau’r ddeiseb.
4.4 P-06-1329 Gosod uchelgais ac amserlen glir i roi addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn yn y wlad
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a phenderfynodd aros am ganlyniad adroddiad Pwyllgor Diwylliant y Senedd ar Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (sydd i'w gyhoeddi y mis hwn) ac ymgynghoriad Papur Gwyn Llywodraeth Cymru.
4.5 P-06-1330 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthod eu cynigion ar gyfer ailbrisio'r dreth gyngor
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y bydd ymgynghoriad pellach a phroses ddeddfwriaethol lawn cyn i unrhyw gynnig gael ei gyflwyno. Penderfynodd y Pwyllgor aros am i ganlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus gael eu cyhoeddi cyn cau’r ddeiseb.
4.6 P-06-1332 Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech y gwiwerod
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a diolchodd i’r deisebydd. Cytunodd y Pwyllgor i ofyn i’r Pwyllgor Busnes am amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn ar y ddeiseb hon.
5 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
5.1 P-05-1106 Cyflwyno cyllidebau iechyd personol a gofal personol yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y mater a’i bod wrthi’n ceisio mynd i'r afael ag ef. Cytunodd y Pwyllgor i gadw’r ddeiseb ar agor a chroesawu’r cynnig o ddiweddariadau cynnydd pellach gan y Dirprwy Weinidog.
5.2 P-06-1213 Dylid gwahardd defnydd hamdden o Seadoo/sgïo jet yng Nghymru. Ac eithrio mewn ardaloedd dynodedig a reolir yn llym
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chan fod y Gweinidog wedi penderfynu peidio â deddfu yn y maes hwn, penderfynwyd nad oedd dim i’w wneud ond diolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.
5.3 P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nodwyd y bu dadl fywiog yn y Siambr ar y pwnc hwn yr wythnos flaenorol. Penderfynodd y Pwyllgor gadw’r ddeiseb ar agor tra’n aros gwaith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a’i adroddiad a ddisgwylir ym mis Tachwedd.
5.4 P-06-1294 Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru y tu ôl
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ofyn i'r Gweinidog ymateb i sylwadau a chwestiynau Tassia ac annog y Gweinidog i gwrdd â Tassia, sydd wedi ymgyrchu'n ddiflino ar ran cleifion canser metastatig y fron.
5.5 P-06-1303 Creu, ariannu a chynnal digon o leoedd meithrin a gofal plant fforddiadwy i bob rhiant sy’n gweithio
Nododd y Pwyllgor fod adolygiad annibynnol o Asesiadau o Ddigonolrwydd Gofal Plant yn 2022 i’w gyhoeddi’n fuan a chytunwyd i gadw’r ddeiseb ar agor tra’n disgwyl y cyhoeddiad hwnnw.
5.6 P-06-1325 Gostwng y cyfyngiad cyflymder ar yr A5 drwy Glasfryn
Nododd y Pwyllgor ymrwymiad y Gweinidog i adolygu’r terfyn cyflymder ar ôl i ganllawiau newydd gael eu cyhoeddi, a chytunwyd nad oedd fawr ddim arall y gallai’r Pwyllgor ei wneud. Caewyd y ddeiseb a diolchwyd i’r deisebydd.
6 Papurau i'w nodi
Cafodd y papurau eu nodi.
6.1 Papur i’w nodi - P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn
6.2 Papur i'w nodi - P-06-1272 Gwahardd defnyddio 'cymalau dim anifeiliaid anwes' mewn cytundebau tenantiaeth yng Nghymru
6.3 Papur i'w nodi - P-06-1297 Dod â "llosgi dan reolaeth" i ben yng Nghymru
6.4 Papur i'w nodi - P-06-1326 Dylai'r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniwyd y cynnig.
8 Trafod tystiolaeth - P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a’r camau nesaf.
9 Adroddiad Blynyddol: Strwythur amlinellol
Nododd y Pwyllgor y strwythur arfaethedig.